{"id":1581,"date":"2015-06-17T17:12:11","date_gmt":"2015-06-17T16:12:11","guid":{"rendered":"https:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/y-ddeddf-uno-yr-un-arall\/"},"modified":"2020-10-01T16:16:30","modified_gmt":"2020-10-01T15:16:30","slug":"y-ddeddf-uno-yr-un-arall","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/y-ddeddf-uno-yr-un-arall\/?lang=cy","title":{"rendered":"Y Ddeddf Uno (yr un arall)\u2026"},"content":{"rendered":"<div class=\"row flexible-block\">\n<div class=\"col-xs-12 wysiwyg\">\n<p>Gall Cynghorau mwy o faint amddifadu trigolion lleol heb ddiwygio\u2019r system pleidleisio, meddai Dr Owain ap Gareth<\/p>\n<p>Heddiw, mae\u2019r Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews\u00a0 yn cyhoeddi map arfaethedig newydd ar gyfer Awdurdodau Lleol yng Nghymru, gyda chynlluniau i leihau&#8217;r nifer o Gynghorau Sir i 8 neu 9. Mae hyn yn dilyn y Papur Gwyn diweddar &#8216;P\u0175er i Bobl Leol&#8217; a oedd yn amlinellu ffyrdd o sicrhau bod cymunedau Roedd llais mewn penderfyniadau sy&#8217;n effeithio arnynt.<\/p>\n<p>Mi\u00a0<a href=\"http:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/blog\/mergerhewrote-leightons-localism\">groeswaodd Electoral Reform Society (ERS) Cymru nifer o&#8217;r cynigion yn y Papur Gwyn,<\/a>\u00a0ond nododd un peth amlwg ar goll \u2013\u00a0 sicrhau llais teg i bob barn drwy gyflwyno&#8217;r\u00a0<a href=\"http:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/single-transferable-vote\">Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV)<\/a>\u00a0ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru.<br \/>\nMae goblygiadau\u2019r absenoldeb hwnnw yn fwyfwy arwyddocaol yn sgil y cynllun ar gyfer cynghorau newydd. Mae STV yn dod yn hyd yn oed fwy hanfodol gyda llai o gynghorau, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg i gymunedau lleol, er mwyn sicrhau bod gwaith craffu gwell, ac i sicrhau dewis go iawn i bleidleiswyr yn y cynghorau newydd, mwy o faint ddaearyddol.<\/p>\n<p>Rydym i gyd yn gwybod sut mae cymunedau lleol yn aml yn teimlo ar y cyrion yn siambr y Cyngor, yn enwedig os nad ydynt yn cael eu cynrychioli gan y grwp sy\u2019n rheoli. Bydd pobl yn nhopiau\u2019r Cymoedd yn cwyno bod y Cymoedd isaf yn ennill ar eu traul, canol dinasoedd yn teimlo\u2019u heithrio o gymharu \u00e2 meysydd pentrefol, pobl mewn ardaloedd gwledig a allai cwyno bod trefi yn cael popeth. Ac i&#8217;r gwrthwyneb wrth gwrs.<\/p>\n<p>Yr wyf fy hun yn dod o bentref yng Ngwynedd o&#8217;r enw Beddgelert, sy&#8217;n ddi-os yn cwyno am Borthmadog gerllaw, sydd yn eu tro cwyno am Gaernarfon, ac rydym i gyd yn cwyno am Gaerdydd (a phawb yng Nghymru yn cwyno am Lundain!). Mae\u2019r Ddeddf Uno newydd hon yn debygol o fod yn eithaf dadleuol, os nad mor ddadleuol ac arwyddocaol a\u2019r un gwreiddiol!<br \/>\nOnd i roi\u2019r jocs o&#8217;r neilltu, gyda chynghorau mwy o faint o dan y system Cyntaf i\u2019r Felin, mi ddaw cefnogaeth pleidiau yn aml o rannau penodol cul o ardal ddaearyddol fwy. Bydd hyn yn beryg go iawn o eithrio buddiannau rhai cymunedau. Bydd hyn yn arwain at fwy o bobl yn teimlo eu heithrio o&#8217;r broses ac yn meithrin mwy o ranniadau a cwynion am ble \u2013 gan feddwl lle \u2013 mae arian cyhoeddus yn mynd.<\/p>\n<p>Bydd STV yn sicrhau bod pleidiau yn gallu cael cefnogaeth ar draws y cynghorau newydd, a bydd rhaid gwneud hynny er mwyn ennill grym. Bydd hyn yn caniat\u00e1u gwell cynrychiolaeth o bob ardal yn y Cynghorau newydd.<\/p>\n<p>Fel y soniwyd mewn mannau eraill ar y blog yma, mae mwyafrifoedd artiffisial yn aml yn arwain at rhyw wladwriaethau bychain un-blaid. Rydym yn gwybod bod hyn yn llai tebygol o arwain at wneud penderfyniadau da i wasanaethu bobl y maent yn eu gwasanaethu ac yn gallu arwain at ddyrchafiad drwy nawdd, clienteliaeth a phroses o wneud cytundebau tu allan i lygaid y cyhoedd. Mae meithrin drafodaeth iawn trwy gynrychiolaeth deg o wahanol bleidiau a safbwyntiau yn hanfodol er mwyn i siambr y Cyngor yn weithredu fel corff i warchod buddiannau y bobl ac i graffu ar benderfyniadau Arweinwyr Cyngor a phleidiau sy\u2019n rheoli.<\/p>\n<p>Gall STV hefyd sicrhau bod cystadleuaeth etholiadol go iawn ym mhob ward yng Nghymru, a bod diwedd ar y seddi diwrthwynebiad. Yn etholiadau&#8217;r cyngor 2012 yng Nghymru, mae 99 o seddi yn ddiwrthwynebiad a dros 140,000 o bleidleiswyr yn cael eu hamddifadu o ddewis o phwy ddylai eu cynrychioli. Roedd yr Alban yn arfer cael yr un broblem. Ond ers cyflwyno STV yn 2008 ar gyfer etholiadau lleol yr Alban, nid oes unryw sedd mewn unryw ward yn Yr Alban wedi\u2019i ennill yn diwrthwynebiad o gwbl.<\/p>\n<p>Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am adnewyddu democratiaeth leol, byddai sicrhau dewis go iawn, craffu go iawn a llais lleol go iawn yn gychwyn da. I gael adnewyddiad wirioneddol o ddemocratiaeth leol yng Nghymru, mae&#8217;n rhaid i&#8217;r cynghorau newydd yn cael eu hethol gan STV.<\/p>\n<\/p><\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gall Cynghorau mwy o faint amddifadu trigolion lleol heb ddiwygio\u2019r system pleidleisio, meddai Dr Owain ap Gareth Heddiw, mae\u2019r Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews\u00a0 yn cyhoeddi map arfaethedig newydd ar gyfer Awdurdodau Lleol yng Nghymru, gyda chynlluniau i leihau&#8217;r nifer o Gynghorau Sir i 8 neu 9. Mae hyn yn dilyn y Papur Gwyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[157],"tags":[],"class_list":["post-1581","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-diwygio-etholiadol"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1581","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1581"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1581\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1581"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1581"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1581"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}