{"id":6622,"date":"2022-05-18T14:50:01","date_gmt":"2022-05-18T13:50:01","guid":{"rendered":"https:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/?p=6622"},"modified":"2022-05-18T14:50:06","modified_gmt":"2022-05-18T13:50:06","slug":"mae-gennym-un-cyfle-i-greu-democratiaeth-gymreig-newydd-gadewch-i-ni-wneud-hyn-yn-iawn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/mae-gennym-un-cyfle-i-greu-democratiaeth-gymreig-newydd-gadewch-i-ni-wneud-hyn-yn-iawn\/?lang=cy","title":{"rendered":"Mae gennym un cyfle i greu democratiaeth Gymreig newydd. Gadewch i ni wneud hyn yn iawn!"},"content":{"rendered":"<div class=\"row flexible-block\">\n<div class=\"col-xs-12 wysiwyg\">\n<p>Mae diwygio\u2019r Senedd wedi bod yn destun trafod ers ei sefydlu. Pan agorodd yn 1999 dim ond 60 o aelodau oedd; doedd dim swyddogaeth o ran llywodraethu, ac roedd ei phwerau\u2019n gyfyngedig. Er bod pwerau\u2019r Senedd a swyddogaeth yr adran weithredol wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth ers hynny, mae nifer yr Aelodau o\u2019r Senedd wedi aros yr un fath.<\/p>\n<p>Ond gallai hynny i gyd fod ar fin newid. Ddydd Mawrth diwethaf, rhyddhaodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price lythyr ar y cyd at Gadeirydd pwyllgor trawsbleidiol sy\u2019n edrych ar ddiwygio ar hyn o bryd, a oedd yn nodi\u2019r safbwynt y cytunwyd arno ar sut y dylid diwygio\u2019r Senedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r llythyr yn rhoi ein cipolwg cyntaf ar sut y gallai\u2019r Senedd edrych yn 2026, gan nodi safbwynt y cytunwyd arno gan Lafur\/Plaid Cymru sy\u2019n cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Cynnydd ym maint y Senedd i 96 o aelodau<\/li>\n<li>Newid yn y system etholiadol, sy&#8217;n cynnwys rhestrau cyfrannol caeedig a ddyrennir drwy ddull D&#8217;hondt.<\/li>\n<li>Cwot\u00e2u rhywedd statudol integredig a threfn am-yn-ail orfodol ar restrau\u2019r pleidiau (trefn gwryw \/ benyw am-yn-ail)<\/li>\n<li>Un ar bymtheg o etholaethau newydd ar gyfer y Senedd erbyn 2026, pob un ohonynt yn ethol 6 aelod, gyda ffiniau\u2019n cwmpasu p\u00e2r o\u2019r 32 etholaeth arfaethedig yn San Steffan<\/li>\n<li>Hyn ynghyd ag adolygiad o ffiniau\u2019n cael ei gynnal ar gyfer yr etholiad dilynol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae ymestyn aelodaeth y siambr i 96 aelod yn gam enfawr ymlaen ac yn rhywbeth y mae ERS Cymru wedi bod yn ymgyrchu yn ei gylch ers bron i ddegawd. Rydym wedi siarad yn rheolaidd am yr <a href=\"https:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/pleidlais-yng-nghynhadledd-llafur-cymru-yn-hwb-mawr-ir-ymgyrchu-dros-ddiwygior-senedd\/?lang=cy\">angen am fwy o aelodau<\/a>; y realiti ar hyn o bryd yw na all ein senedd weithredu&#8217;n iawn.<\/p>\n<h3><strong>Senedd gryfach<\/strong><\/h3>\n<p>Mae&#8217;r siambr bresennol o 60 aelod yn gadael ychydig dros 40 (y rhai nad ydynt yn rhan o&#8217;r llywodraeth neu\u2019n arweinwyr y pleidiau) i gyflawni\u2019r r\u00f4l hanfodol o graffu. Mae hyn i bob pwrpas wedi arwain at &#8216;senedd ran-amser&#8217; yng Nghymru gyda phwyllgorau&#8217;r Senedd yn cael eu cynnal bob-yn-ail wythnos yn unig yn ystod y cyfnod presennol. Cymru yw\u2019r unig un o\u2019r pedair gwlad yn y DU sydd heb ddigon o aelodau i weithredu\u2019n llawn-amser \u2013 mae\u2019r diffyg Aelodau Senedd Cymru yn golygu nad yw ei phwyllgorau craffu yn gallu gweithio\u2019n effeithiol oherwydd y pwysau sydd arnynt. Canlyniad hyn yw bod y penderfyniadau mawr y mae gweinidogion yn eu cymryd dros sut mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio neu sut mae biliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr yn cael ei wario mewn perygl o gael eu cymryd heb y gwaith craffu a dadansoddi priodol y sefydlwyd y Senedd i\u2019w gyflawni.<\/p>\n<p>Bydd cynyddu maint y Senedd, yn unol ag <a href=\"https:\/\/senedd.wales\/media\/eqbesxl2\/a-parliament-that-works-for-wales.pdf\">Argymhellion y Panel Arbenigol<\/a> a&#8217;n hadroddiad ni <a href=\"https:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/size-matters\/\">Mae Maint yn Bwysig<\/a> yn 2013, yn darparu senedd fwy effeithiol a all graffu\u2019n briodol ar ddeddfwriaeth allweddol a chyllideb o \u00a317 biliwn.<\/p>\n<h3><strong>Senedd fwy amrywiol<\/strong><\/h3>\n<p>Rhan gadarnhaol arall o\u2019r fargen hon yw\u2019r ymrwymiad i gynyddu amrywioldeb y Senedd drwy gwot\u00e2u rhywedd statudol a rhestrau am-yn-ail. Rydym wedi gweld <a href=\"https:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/newyddion-diweddaraf-ac-ymchwil\/briffiau\/?lang=cy\">effeithiolrwydd cwot\u00e2u ynghyd \u00e2 <\/a><a href=\"https:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/newyddion-diweddaraf-ac-ymchwil\/briffiau\/?lang=cy\">lleoli gorfodol ar restrau<\/a> mewn gwledydd fel Costa Rica. Gyda Senedd Cymru\u2019r gyntaf i sicrhau cydbwysedd 50:50 rhwng y rhyweddau yn \u00f4l yn 2003, mae\u2019n iawn ein bod yn cynnwys mesurau i sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli\u2019n briodol yn ein senedd genedlaethol mewn blynyddoedd i ddod. Ni ddylai hyn orfod dibynnu ar effeithiolrwydd pleidiau wrth ddewis ystod amrywiol o ymgeiswyr i sicrhau bod ein senedd yn adlewyrchu amrywioldeb rhywedd Cymru gyfan. Yr hyn sy&#8217;n llai clir ar hyn o bryd yw&#8217;r mesurau y gellid eu defnyddio i gynyddu cynrychiolaeth ar gyfer nodweddion gwarchodedig eraill megis hil, ethnigrwydd, oedran, anabledd a&#8217;r rhai o&#8217;r gymuned LHDTC+.<\/p>\n<h3><strong>Y Camau Nesaf<\/strong><\/h3>\n<p>Er bod elfennau cadarnhaol i\u2019r fargen hon, mae yna hefyd rai y mae angen eu hystyried ymhellach, ac rydym yn gobeithio y bydd y Pwyllgor Diben Arbennig yn eu hystyried pan fyddant yn cyflwyno adroddiad tua diwedd y mis hwn. Er bod y cynigion yn amlwg yn gwrthod yr hen system \u2018y Cyntaf i&#8217;r Felin\u2019 ac rydym yn croesawu&#8217;r cam i ffwrdd o&#8217;r System Aelodau Ychwanegol, mae pryderon o hyd ynghylch y defnydd o restrau caeedig oherwydd y diffyg dewis a fydd gan bleidleiswyr. Gwrthodwyd y system hon gan y <a href=\"https:\/\/senedd.wales\/how-we-work\/our-role\/future-senedd-reform\/expert-panel-on-electoral-reform\/\">Panel Arbenigol<\/a> ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, a ddywedodd ei bod yn gadael \u201cDim dewis i bleidleiswyr rhwng ymgeiswyr unigol\u201d a \u201cDim atebolrwydd i Aelodau unigol yn uniongyrchol i bleidleiswyr\u201d. <span class=\"\">Yn ein hadroddiad\u00a0<\/span><a class=\"\" title=\"https:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/latest-news-and-research\/publications\/reshaping-the-senedd\/\" contenteditable=\"false\" href=\"https:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/newyddion-diweddaraf-ac-ymchwil\/cyhoeddiadau\/?lang=cy\"><span class=\"\">Ail-lunio\u2019r Senedd<\/span><\/a><span class=\"\">\u00a0yn 2016 fe wnaethom argymhelliad bod y Senedd yn symud i Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV), rhywbeth y gwnaeth y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad a phwyllgor y Senedd yn ddiweddarach ei gymeradwyo.<\/span><\/p>\n<p>Mae\u2019r penderfyniad i ddefnyddio dull D\u2019Hondt o ddyrannu pleidleisiau hefyd yn bygwth cymesuredd y system newydd hon, drwy greu trothwy uchel i bleidiau llai ei gyrraedd er mwyn sicrhau cynrychiolaeth a chael aelodau wedi\u2019u hethol. Mae defnyddio D&#8217;Hondt yn debygol o wneud y canlyniad terfynol dim ond mor gyfrannol \u00e2\u2019r system bresennol, neu hyd yn oed ychydig yn llai cyfrannol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r pecyn hwn yn gam ymlaen i\u2019r Senedd mewn cymaint o ffyrdd, ond rhaid i ni fod yn ofalus nad yw hefyd yn gam yn \u00f4l mewn ffyrdd eraill. Rydym yn aros am adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ymhen ychydig wythnosau, ac yna mae dadl yn y Senedd ar yr adroddiad hwnnw wedi&#8217;i threfnu ar gyfer 8<sup>fed<\/sup> Mehefin. Dylai aelodau\u2019r Senedd o bob rhan o\u2019r Siambr ystyried sut i sicrhau bod y pecyn hwn yn arwain at ddiwygiadau go iawn i\u2019r Senedd \u2013 nid yn unig o ran maint ac amrywioldeb ond o ran sicrhau bargen decach i bleidleiswyr hefyd. Mae gennym un cyfle i greu democratiaeth Gymreig newydd. Gadewch i ni wneud hyn yn iawn!<\/p>\n<\/p><\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae diwygio\u2019r Senedd wedi bod yn destun trafod ers ei sefydlu. Pan agorodd yn 1999 dim ond 60 o aelodau oedd; doedd dim swyddogaeth o ran llywodraethu, ac roedd ei phwerau\u2019n gyfyngedig. Er bod pwerau\u2019r Senedd a swyddogaeth yr adran weithredol wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth ers hynny, mae nifer yr Aelodau o\u2019r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":5730,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[165,166],"tags":[168],"class_list":["post-6622","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ers-cymru-cy","category-senedd","tag-single-transferable-vote-cy","feature-category-ers-cymru-cy","feature-category-materion-cyfoes"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6622","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6622"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6622\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5730"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6622"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6622"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6622"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}