{"id":6930,"date":"2022-11-15T00:01:31","date_gmt":"2022-11-15T00:01:31","guid":{"rendered":"https:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/?p=6930"},"modified":"2022-11-15T08:56:12","modified_gmt":"2022-11-15T08:56:12","slug":"etholiadau-lleol-cymru-2022-ar-achos-dros-stv","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/etholiadau-lleol-cymru-2022-ar-achos-dros-stv\/?lang=cy","title":{"rendered":"Etholiadau Lleol Cymru 2022 a\u2019r Achos dros STV"},"content":{"rendered":"<div class=\"row flexible-block\">\n<div class=\"col-xs-12 wysiwyg\">\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Ar 5<\/span><span style=\"font-weight: 400;\">ed<\/span><span style=\"font-weight: 400;\"> Mai 2022 aeth dinasyddion i&#8217;r gorsafoedd pleidleisio yng Nghymru i ethol cynghorwyr ar gyfer pob un o&#8217;r 22 awdurdod lleol. Nid dyma&#8217;r unig etholiadau a gynhaliwyd y diwrnod hwnnw; Cynhaliodd Gogledd Iwerddon etholiad i\u2019w Cynulliad ac roedd yna etholiadau lleol eraill mewn rhannau o Loegr ac ar draws holl awdurdodau lleol yr Alban.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Defnyddiwyd cymysgedd o systemau etholiadol yn yr etholiadau hyn, gydag etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau lleol yr Alban yn defnyddio&#8217;r system <a href=\"https:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/system-bleidleisio\/y-bleidlais-sengl-drosglwyddadwy\/?lang=cy\">Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV)<\/a>, tra defnyddiodd Cymru a <a href=\"https:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/system-bleidleisio\/y-cyntaf-ir-felin\/?lang=cy\">Lloegr y Cyntaf i&#8217;r Felin (FPTP)<\/a> yn eu hetholiadau lleol.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Ac eto fe allai\u2019r darlun yng Nghymru newid nawr. Yn dilyn pasio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 mae darpariaeth newydd wedi dod i rym sy\u2019n caniat\u00e1u i gynghorau bleidleisio dros symud i STV ar sail unigol. I wneud hyn mae angen i gyngor gael dwy ran o dair o&#8217;i aelodau i gytuno ar benderfyniad cyn 15<\/span><span style=\"font-weight: 400;\">fed<\/span><span style=\"font-weight: 400;\"> Tachwedd, dair blynedd cyn yr etholiad nesaf (yn 2027).\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae ein hadroddiad newydd <a href=\"https:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Amser-am-Newid_Etholiadau-Lleol-Cymru-2022-ar-Achos-dros-STV-FINAL.pdf\"><em>Amser i Newid: Etholiadau Lleol Cymru 2022 a\u2019r achos dros STV<\/em><\/a> yn cael ei gyhoeddi heddiw, ddwy flynedd i\u2019r diwrnod cyn bod rhaid i gynghorau fod wedi cynnal pleidlais os ydyn nhw\u2019n bwriadu symud i STV, ac mae\u2019n dadlau\u2019r achos i gynghorwyr bleidleisio dros symud i STV.\u00a0<\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Dangosodd etholiadau lleol Cymru 2022 unwaith eto pam fod angen newid. Roedd yr etholiadau hyn yn frith o ganlyniadau anghymesur, seddi diwrthwynebiad, a gwelwyd nifer is yn pleidleisio nag yn 2017.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn dilyn etholiadau eleni, ar hyn o bryd yng Nghymru mae yna wyth cyngor gyda &#8216;mwyafrifoedd heb eu hennill&#8217; lle mae plaid yn dal dros 50% o&#8217;r seddi ar lai na 50% o&#8217;r bleidlais, mwy na thraean o&#8217;r holl gynghorau.\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Cymerwch er enghraifft Gaerdydd, lle mae Llafur yn dal 70% o&#8217;r seddi gyda dim ond 47% o&#8217;r bleidlais. Neu Ynys M\u00f4n, lle mae gan Blaid Cymru 60% o\u2019r seddi, er iddynt ond ennill 41% o\u2019r bleidlais. Mae hyn yn gallu mynd y ffordd arall hefyd; ar draws Cymru mae pleidiau yn colli cymaint ag y maent yn ei ennill oherwydd effeithiau camarweiniol system y Cyntaf i&#8217;r Felin. Y Ceidwadwyr a ddioddefodd yn Ynys M\u00f4n, lle cawsant 19% o&#8217;r bleidlais ond heb ennill unrhyw sedd. Enillodd Plaid Cymru, oedd yn sefyll fel Tir Cyffredin gyda&#8217;r Gwyrddion yng Nghaerdydd, dim ond 2 o\u2019r 79 o seddi ar y cyngor, er iddynt ennill 17% o&#8217;r bleidlais ar draws y ddinas. Mae&#8217;n fater o hap a damwain etholiadol.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae etholiadau lleol yr Alban, sy\u2019n defnyddio STV, yn rhoi cipolwg i ni o\u2019r hyn y gallai system wahanol ei gynnig; canlyniadau tecach, mwy o ddewis i bleidleiswyr a mwy o bobl yn teimlo bod eu pleidlais yn cyfrif.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn \u00f4l yn 2003 roedd gan Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP) ym Midlothian 24% o&#8217;r bleidlais ond heb ennill unrhyw seddi. Dim ond 1.3% o seddi enillodd yr Annibynwyr yn Glasgow, er iddynt sicrhau bron i 17% o&#8217;r bleidlais. Newidiodd hynny i gyd yn aruthrol yn 2007 gyda chyflwyniad STV. Ym Midlothian enillodd yr SNP 33.3% o&#8217;r seddi gyda 33.4% o&#8217;r bleidlais. Yn Stirling enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol 13.6% o seddi gydag 11.1% o&#8217;r bleidlais &#8211; llawer mwy cynrychioliadol o&#8217;u cyfran o&#8217;r bleidlais nag a gyflawnwyd o dan system y Cyntaf i\u2019r Felin.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yng Nghymru mae gennym gyfle nawr i ddilyn esiampl yr Alban. Gobeithiwn y bydd cynghorwyr yng Nghymru yn ystyried y dystiolaeth rymus hon, yn mentro ac yn pleidleisio i gryfhau democratiaeth leol mewn pryd ar gyfer newid yn 2027.\u00a0<\/span><\/p>\n<div class=\"en__component en__component--row en__component--row--1\">\n<div class=\"en__component en__component en__component--column\">\n<div class=\"en__component en__component--copyblock\">\n<p><strong>Ychwanegwch eich enw i alw ar eich cyngor i gael gwared ar y Cyntaf i&#8217;r Felin.<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<p>        <a href=\"https:\/\/action.electoral-reform.org.uk\/page\/117205\/petition\/1?ea.tracking.id=yi2xbabf&#038;locale=cy-GB\" class=\"btn\">Ychwanegwch eich enw<\/a>    <\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar 5ed Mai 2022 aeth dinasyddion i&#8217;r gorsafoedd pleidleisio yng Nghymru i ethol cynghorwyr ar gyfer pob un o&#8217;r 22 awdurdod lleol. Nid dyma&#8217;r unig etholiadau a gynhaliwyd y diwrnod hwnnw; Cynhaliodd Gogledd Iwerddon etholiad i\u2019w Cynulliad ac roedd yna etholiadau lleol eraill mewn rhannau o Loegr ac ar draws holl awdurdodau lleol yr Alban. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":6931,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[165],"tags":[167,168],"class_list":["post-6930","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ers-cymru-cy","tag-local-democracy-cy","tag-single-transferable-vote-cy","feature-category-ers-cymru-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6930","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6930"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6930\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6931"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6930"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6930"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/electoral-reform.org.uk\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6930"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}